Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir

9 Ionawr 2017

SL(5)042 - Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yw'r dulliau a ddefnyddir gan Awdurdodau Lleol i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt dalu'r Dreth Gyngor. Mae'r Offeryn Statudol hwn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013. Mae'n uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad, a lefel y gostyngiad, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae'r offeryn hwn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil newidiadau i'r system les a threth ehangach.

Deddf Wreiddiol: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 [Saesneg yn unig]

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: 5 Rhagfyr 2016.

Yn dod i rym ar: Yn unol â rheoliad 1(2)

 SL(5)044 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017

Gweithdrefn: Gadarnhaol

Mae'r Rheoliadau drafft hyn yn rhagnodi'r ffi sy'n daladwy i gofrestru ar y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill 2017 ac yn dirymu Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016.

Deddf Wreiddiol: Deddf Addysg (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: Heb ei nodi

Fe’u gosodwyd ar: 14 Rhagfyr 2016.

Yn dod i rym ar: 1 Chwefror 2017, ac eithrio fel y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 1(1)